Mae’r tri ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Lafur yn dweud y bydden nhw’n cynnig swyddi i’w gilydd yng nghabinet cysgodol Llafur, ac yn fodlon bod yn aelod o gabinet y naill wrthwynebydd neu’r llall.

Keir Starmer, Rebecca Long-Bailey a Lisa Nandy yw’r tri sy’n cystadlu i olynu Jeremy Corbyn.

Mae’r bleidlais yn agor yfory (dydd Llun, Chwefror 24) ac mae’r ymgeiswyr wedi bod yn cymryd rhan mewn hystingau yn Durham.

“Byddwn i’n hapus i gynnig prif swydd i’r ddau ymgeisydd arall yn y cabinet cysgodol a byddwn i’n hapus i’w gwasanaethu nhw pe baen nhw eisiau i fi wneud yr un fath,” meddai Keir Starmer, llefarydd Brexit Llafur.

“Mi fyddwn i, dw i’n credu eu bod nhw ill dau yn wych,” meddai Rebecca Long-Bailey, oedd yn ffefryn cynnar yn y ras.

“Ac mi fyddwn i’n gwneud beth bynnag maen nhw’n ei ofyn a beth bynnag mae’n ei gymryd i sicrhau, pe na bawn i’n dod yn arweinydd, y cawn ni ein hethol yn llywodraeth nesaf Llafur.”

Mae Lisa Nandy yn dweud ei bod hi’n “hoffi a pharchu” y ddau arall.

“Byddwn i eu heisiau nhw yn fy nghabinet cysgodol yn gwneud swyddi mawr,” meddai.

“Ond byddwn i’r un mor hapus i wasanaethu ochr yn ochr â nhw ym mha bynnag swydd y bydden nhw’n ei chynnig i fi.”

Mae gan yr ymgeiswyr oddeutu chwe wythnos i ennill cefnogaeth i’w hymgyrchoedd.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.