Mae awyren yn cludo teithwyr llong fordaith a gafodd ei tharo â haint y coronavirus yn y Dwyrain Pell wedi glanio ym Mhrydain.

Cyrhaeddodd yr awyren faes awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Boscombe Down yn Wiltshire ychydig wedi 11.30am. Ar ei bwrdd roedd 32 o deithwyr Prydeinig ac Ewropeaidd ynghyd â staff meddygol arbenigol.

Bydd y teithwyr yn cael eu cludo mewn bysiau i Ysbyty Arrowe Park ar Lannau Mersi am 14 diwrnod o cwarantin er mwyn rhwysto’r salwch rhag lledaenu pe bai un ohonyn nhw wedi cael eu heintio. Maen nhw wedi profi’n negyddol hyd yma i Covid-19.

Roedd y teithwyr wedi treulio mwy na phythefnos ar fwrdd y Diamond Princess oddi ar arfordir Japan.

Nid oedd y pedwar Prydeiniwr ar fwrdd y Diamond Princess a oedd wedi profi’n gadarnhaol am coronavirus at yr awyren y bore yma.

Cafodd ysbyty Arrow Park ei ddefnyddio i gadw 83 o ddinasyddion Prydain am gyfnod 14 diwrnod o cwarantin yn gynharach y mis yma ar ôl cael eu hedfan allan o Wuhan yn Tsieina, lle cychwynnodd yr haint a lle mae’r nifer mwyaf o bellffordd o achosion.