Mae dynes sy’n cefnogi Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi pledio’n euog i gynllwyn i ffrwydro gwesty ac Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Aeth Safiyya Amira Shaikh, dynes 36 oed o Middlesex, gerbron yr Old Bailey i wynebu’r cyhuddiad o baratoi a dosbarthu deunydd brawychol.

Mae’r cyhuddiad yn nodi iddi gysylltu â rhywun oedd yn gallu paratoi ffrwydron a’i bod hi wedi ymweld â’r eglwys gadeiriol enwog a gwesty gyda’r bwriad o adael ffrwydron yno.

Clywodd y llys iddi baratoi llw i Daesh rhwng Awst a Hydref y llynedd, a’i bod hi wedi rhannu dogfennau brawychol ar yr ap Telegram yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd adroddiadau’n cael eu paratoi cyn iddi gael ei dedfrydu ar Fai 12, a bydd adroddiad seiciatrig yn cael ei baratoi erbyn Ebrill 3.