Mae disgwyl i 70 o Brydeinwyr sydd ar long bleser y Diamond Princess deithio adref ddydd Sadwrn (Chwefror 22).

Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddyn nhw hedfan o Japan heddiw (dydd Gwener, Chwefror 21) ond fydd hyn ddim yn digwydd tan yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 22).

Fydd y pedwar o bobol o wledydd Prydain sydd wedi profi’n bositif am coronavirus ddim ar yr hediad.

Ar ôl cyrraedd gwledydd Prydain, bydd rhaid i’r 70 aros mewn cwarantîn yng nghanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Boscombe Down ger Salisbury, am o leiaf bythefnos.

Roedd 3,700 o bobol yn teithio ar long pleser y Diamond Princess ddechrau mis Chwefror pan gafodd 10 teithiwr ddiagnosis o’r clefyd.

Ers hynny mae’r llong wedi bod mewn cwarantîn ym mhorthladd Yokohama yn Japan ac mae cyfanswm o 634 o deithwyr a chriw wedi’u heintio.

Hanes pâr priod

Mae David a Sally Abel, o Swydd Northampton, wedi bod yn dogfennu eu hamser ar y llong gwarantîn ar wefannau cymdeithasol.

Mae’r cwpl bellach yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Japan ar ôl dal y firws ar y llong.

“Rydyn ni’n dau yn y lle gorau! Maen nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud ac rydym yn cael y gofal gorau,” meddai David Abel.

Ddydd Iau (Chwefror 20), daeth cadarnhad fod 5,549 o bobol yng ngwledydd Prydain wedi cael eu profi am y firws, a bod naw ohonyn nhw wedi’u profi’n bositif.