Fe fydd dyn 28 oed yn gorfod treulio o leiaf 17 mlynedd dan glo am lofruddio’r deithwraig o Brydain Grace Millane yn Seland Newydd.

Roedd y llofrudd, na ellir cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol, wedi tagu Grace Millane mewn gwesty yn Auckland ar ôl cwrdd â hi ar y wefan Tinder ar Ragfyr 1, 2018, ddiwrnod cyn ei phen-blwydd yn 22 oed.

Cafwyd hyd i’w chorff yn ddiweddarach mewn siwtces wedi’i gladdu mewn ardal goediog ger y ddinas.

Roedd y dyn wedi honni bod Grace Millane wedi marw’n ddamweiniol ar ôl iddyn nhw gael rhyw.

Ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor ym mis Tachwedd y llynedd.

Fe fu cannoedd o bobol yn cynnal gwylnos wedi ei marwolaeth ac mae’r Prif Weinidog Jacinda Ardern wedi son am y “tristwch a’r cywilydd” bod Grace Millane wedi cael ei lladd yn Seland Newydd.