Mae mwyafrif poobl gwledydd Prydain yn credu y dylai’r rheini sy’n symud i fyw neu weithio i wlad newydd ddysgu iaith y wlad honno, yn ôl arolwg barn.

Yn yr arolwg o 3,180 o oedolion gan YouGov, dywedodd 83% eu bod yn cytuno â’r farn, gyda dim ond 9% yn dweud na ddylai’r rhai sy’n symud orfod dysgu’r iaith.

Roedd yr arolwg yn dilyn cyhoeddiad llywodraeth Prydain y byddai ei rheolau mewnfudo newydd sy’n seiliedig ar bwyntiau yn rhoi 10 pwynt i’r rheini sy’n gobeithio symud i Brydain os gallan nhw siarad Saesneg.

Roedd 48% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn credu bod lefel mewnfudo i Brydain yn “rhy uchel”, 33% o’r farn ei fod “tua bod yn iawn” a 6% ei fod yn “rhy isel”.