Mae un o weinidogion y llywodraeth wedi cael ei benodi i fod yn gyfrifol am gynllun rheilffordd gyflym HS2.

Fe ddaeth Andrew Stephenson yn weinidog trafnidiaeth pan wnaeth Boris Johnson ail-drefnu ei gabinet yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd y bydd yn gweithio gyda chwmni HS2 a phartneriaid yng nghanolbarth a gogledd Lloegr “i greu cysylltiadau hanfodol a lledaenu ffyniant.” Fe fydd hefyd yn gyfrifol am gynllun i ddatblygu cysylltiadau trenau cyflym ar draws mynyddoedd y Pennines.

Cafodd ei ethol yn AS yn 2010 ac mae wedi gwasanaethu fel gweinidog yn y Swyddfa Dramor ac un o chwipiaid y llywodraeth.

Rhoddodd y llywodraeth y golau gwyrdd i HS2 yn gynharach y mis yma er gwaethaf y ffaith fod y cynllun ddegau o biliynau o bunnau dros ei gyllideb a blynyddoedd yn hwyr.