Mae cwmni gwneud watsys wedi symud o Loegr i’r Alban o ganlyniad i Brexit.

Mae’r Marloe Watch Company bellach ar fin recriwtio gweithwyr newydd yn Perth ar ôl symud yno o Henley-on-Thames yn Swydd Rhydychen.

Roedd y posibilrwydd y gallai’r Alban ddod yn annibynnol ac ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn ffactor pwysig, yn ôl Oliver Goffe, un o gyd-sylfaenwyr y cwmni.

“Mae gwerthoedd y cwmni’n fwy cydnaws â’r Alban na gweddill Prydain ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae arnom eisiau i’n plant dyfu i fyny mewn byd rhyngwladol, nid un sydd wedi’i ynysu.

“Fel busnes, byddai wedi bod yn well gennym aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac ar ôl Brexit, mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd i’r Alban nag i weddill Prydain.”