Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn rhybuddio y gall bwyd sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain gyfrannu at golli coedwigoedd a bywyd gwyllt dramor.

Mae’r elusen WWF wedi lansio ymgyrch yn galw am gyfreithiau newydd i rwystro cwmnïau rhag mewnforio cynnyrch sydd yn achosi datgoedwigo.

Maen nhw’n tynnu sylw penodol at fwydydd anifeilaid fel soy sy’n cael ei dyfu mewn gwledydd eraill. Mewn achosion o’r fath, gallai cynhyrchu cig ym Mhrydain gyfrannu at niwed amgylcheddol os yw coedwigoedd yn cael eu torri i lawr i wneud lle i dyfu’r soy.

Yn ôl y WWF, mae pobl o Ewrop, gan gynnwys Prydeinwyr, yn bwyta 134.5lb (61kg) o soy y flwyddyn yn ddiarwybod iddyn nhw. Mae soy yn cael ei fewnforio a’i fwydo i anifeiliaid fel moch a ieir sydd yn cael eu magu ym Mhrydain.

Daw’r soy sydd yn cael ei fwydo i anifeiliaid yn bennaf o Dde America, ble mae’r galw am gynhyrchu’r cnwd wedi treblu dros yr ugain mlynedd diwethaf meddai’r elusen.

Mae coedwigoedd a chynefinoedd fel Cerrado Savanna yn Brasil, yn cael eu clirio i wneud tir newydd i dyfu bwyd gan ei fod yn fwy proffidiol na defnyddio hen dir amaethyddol wedi ei adael sydd yn bodoli’n barod.

Mae cynhyrchion eraill fel olew palmwydd hefyd yn achosi datgoedwigo, gyda thri chwarter o’r golled i goedwigoedd mewn gwledydd trofannol yn gysylltiedig ag amaeth. Yn ôl y WWF, mae’r bwyd mae pobl yn ei fwyta ym Mhrydain hefyd yn gysylltiedig â diflaniad oddeutu 33 o rywogaethau.

‘Angen gwneud mwy’

Er fod rhai cwmnïau wedi ymrwymo i daclo datgoedwigo, mae’r WWF yn galw ar y Llywodraeth i ddod a mewnforio cynnyrch sydd yn gyrru datgoedwigo i ben.

“Dydi pobl ddim eisiau bwyta bwyd sydd yn dinistrio’r amgylchedd,” meddai Katie White, cyfarwyddwr ymgyrchoedd ac eiriolaeth y WWF.

“Ond mae datgoedwigo yn gudd, hyd yn oed mewn bwyd sydd yn ymddangos fel bwyd sy’n cael ei dyfu adref.”