Mae’r Swyddfa Dramor “wrthi’n trefnu” awyren yn ôl i wledydd Prydain i’r rhai sydd ar fwrdd llong mewn cwarantîn ar arfordir Japan yn dilyn pryderon am coronavirus.

Mae’r adran wedi bod o dan bwysau i helpu’r 74 o bobol sydd ar fwrdd y Diamond Princess ar ôl i’r UDA anfon dwy awyren a dychwelyd 340 o’u dinasyddion.

“Mae ein staff yn cysylltu â phob Prydeiniwr ar fwrdd y llong i wneud y trefniadau angenrheidiol,” meddai’r Swyddfa Dramor.

“Rydym yn pwyso ar bawb nad ydyn nhw wedi ymateb eto i ddod mewn cysylltiad ar unwaith.”

Ddoe (dydd Llun, 17 Chwefror), cadarnhaodd y Weinyddiaeth Iechyd yn Japan fod 99 o bobol eraill ar fwrdd y llong wedi eu heintio â’r firws, gan ddod â’r cyfanswm i 454.

Daw’r wybodaeth yma wedi i Syr Richard Branson ddweud fod Virgin Atlantic “yn trafod” gyda’r Llywodraeth i weld a ydyn nhw’n gallu helpu.

Roedd y dyn busnes wedi ymateb i apêl ar Twitter gan David a Sally Abel, sydd ymysg y rhai sydd yn gaeth yn eu caban ar fwrdd y llong ers dyddiau ac yn dal i aros am ganlyniadau eu profion.

Er hyn, does dim sicrwydd y bydd y teithwyr yn cael gadael y llong yfory (dydd Mercher, Chwefror 19) ar ddiwedd y cyfnod cwarantîn o 14 diwrnod.