Mae deisebau er cof am y gyflwynwraig deledu Caroline Flack, a gymerodd ei bywyd ei hun dros y penwythnos, wedi denu cannoedd o filoedd o lofnodion.

Mae ymgyrchwyr yn galw am gyfraith fydd yn diogelu pobol rhag cael eu cam-drin ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol drwy law troliau.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn lladd eu hunain oherwydd camdriniaeth ar-lein. Mae bywyd yn werth llawer mwy nag unrhyw sylwadau cas,” meddai Raurie Williams sylfaenydd deiseb ar change.org.

Mae’r ddeiseb honno’n galw am dair cyfraith:

  • Ei gwneud yn anghyfreithlon i gam-drin rywun ar lein. Ni fyddai hynny’n dderbyniol ar ochr y stryd, felly mae Raurie Wiliams yn cwestiynu pam fod hynny yn dderbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Fod angen i bawb sydd yn cofrestru ar unrhyw gyfrif cyfryngau cymdeithas yn darparu prawf o pwy ydyn nhw a’u hoedran (ID) er mwyn teilwra beth maen nhw’n gallu ei weld ac yn eu gwneud yn atebol i unrhyw ymddygiad anghyfreithlon
  • Unrhyw un sydd wedi cael eu cyhuddo o drosedd rhyw ac ar restr troseddwyr rhyw, rhaid iddyn nhw ddatgan hyn wrth gofrestru ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae deiseb ar 38 Degrees gan Dennis Patton yn galw am ystyried troseddau ar-lein yn yr un modd â dynladdiad corfforaethol, ac mae honno wedi denu bron i 500,000 o lofnodion.

Cefndir

Roedd rheolwr Caroline Flack wedi disgrifio’r gyflwynwraig 40 oed fel person “bregus” ar ôl iddi bledio’n ddieuog i gyhuddiad o ymosod ar ei chariad ym mis Rhagfyr, 2019.

Roedd wedi dweud wrth yr heddlu bryd hynny y  byddai’n lladd ei hunan.

Mae cwmni rheoli Caroline Flack hefyd yn feirniadol iawn o Wasanaeth Erlynydd y Goron (CPS) am barhau â’r achos, er nad oedd ei chariad yn ei gefnogi.

Mae Caroline Flack yn fwyaf adnabyddus erbyn hyn am gyflwyno’r rhaglenni teledu Love Island a The X Factor.

Hi yw’r pedwerydd person o’r gyfres deledu Love Island i gymryd ei bywyd ei hun.