Fe fydd Banc Brenhinol yr Alban (RBS) yn cael ei ail-frandio ac yn newid ei enw i NatWest plc.

Daw’r cyhoeddiad gan y prif weithredwr newydd, Alison Rose, a’r penderfyniad y tu ôl i’r ail-frandio yw bod 80% o gwsmeriaid yn bancio gyda brand NatWest yn hytrach na thrwy ganghennau RBS.

Ni fydd yr ail-frandio yn cael effaith ar gwsmeriaid a staff.

Mae Alison Rose hefyd wedi cyhoeddi difidend o 5c am bob cyfran i gyfranddalwyr. Mae’n golygu y bydd y Llywodraeth, sydd a’r gyfran uchaf, yn derbyn bron i £600m.

Mae hyn yn bosib am fod y banc wedi gwneud elw cyn treth o £4.2bn – cynnydd o 26% o £3.4bn yn 2018.

Bu Alison Rose yn annerch staff bore ddydd Gwener (Chwefror 14) er mwyn  amlinellu ei strategaeth. Fe gyhoeddodd y bydd toriadau o £250m drwy gau 215 o ganghennau dros y flwyddyn.

Eu targedau ar gyfer y dyfodol yw creu 50,000 o fusnesau newydd erbyn 2023 gan helpu i greu 500,000 o swyddi.

Mae’r newid enw yn rhan o ymdrech y banc i gael gwared a’r stigma sydd ynghlwm ag RBS ar ôl i’r banc fynd i drafferthion sylweddol yn ystod yr argyfwng ariannol a chael ei achub gan y Llywodraeth.