Mae 83 o bobl wedi cael mynd adref o ysbyty Arrowe Park ar Lannau Mersi ar ôl cael eu cadw mewn cwarantin yno am bythefnos.

Roedden nhw wedi cael eu hedfan yn ôl i Brydain o Wuhan yn Tsieina, lle mae’r coronavirus ar ei waethaf, ond maen nhw i gyd wedi profi’n negyddol o’r haint.

Dywedodd un ohonyn nhw, Matt Raw, o Knutsford yn Sir Gaer, fod holl staff yr ysbyty wedi bod yn garedig iawn.

“Mae staff gwych y Gwasanaeth Iechyd wedi gwneud eu gorau i’n cadw mor gysurus â phosib,” meddai.

“Doedden ni ddim yn garcharorion. Roedden nhw’n ceisio gwneud inni deimlo ein bod ar wyliau am bythefnos, ond efallai heb y pwll nofio.”

Fe wnaethon nhw adael yr ysbyty mewn dau fws y pnawn yma. Mae nifer bach o bobl, a gyrhaeddodd yn ôl o Tsieini ddiwrnod neu ddau’n ddiweddarach, yn dal yn yr ysbyty, ac mae disgwyl iddyn nhw fynd adref y penwythnos yma.”

Meddai Dr William Welfare, dirprwy gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gogledd-Orllewin Lloegr:

“Mae pob un o’r canlyniadau profion o’r daith awyren gyntaf wedi dod yn ôl yn negyddol felly gallwn fod yn sicr nad oes neb o’r rheini sy’n gadael heddiw yn achosi risg i’r cyhoedd yn ehangach.

“Rydym wrth ein boddau eu bod nhw’n gadael ac y byddan nhw’n gallu parhau â’u bywydau arferol.”