Mae’r prif weinidog Boris Johnson o dan bwysau i gyfaddef pwy dalodd am ei wyliau moethus £15,000 i’r Caribî.

Roedd ef a’i gariad Carrie Symonds wedi derbyn llety am wyliau preifat ar ynysoedd St Vincent a’r Grenadines, ac ar gofrestr buddiannau aelodau yn Nhŷ’r Cyffredin nodir mai David Ross, un o gyd-sylfaenwyr Carphone Warehouse, oedd wedi talu am y trip.

Mae David Ross, fodd bynnag, yn dweud iddo helpu Boris Johnson gysylltu â chwmnïau llety, ond yn gwadu talu am y llety.

“Rhaid i Boris Johnson fod yn onest a dweud pwy dalodd am ei wyliau moethus,” meddai’r AS Llafur Jon Trickett, gweinidog swyddfa cabinet yr wrthblaid.

“Os yw’n methu â gwneud hynny, dylai’r Comisiynydd Safonau Seneddol gamu i mewn a gwneud iddo gyfaddef.

“Mae’r cyhoedd yn haeddu gwybod pwy sy’n talu am dripiau’r Prif Weinidog.”