Mae Nicola Sturgeon wedi taflu dŵr oer ar addewid gan Boris Johnson i ystyried codi pont rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywed y dylai’r arian i godi pont o’r fath gan ei anfon at lywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon fel eu bod nhw’n cael dewis sut i’w wario.

Mewn ymateb i gyhoeddiad Boris Johnson dydd Llun, meddai Prif Weinidog yr Alban:

“Os oes gennych chi £20 biliwn ar gael i godi pont, dw i’n eitha sicr y byddwn i a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon yn gallu cael pethau i’w wario arnynt ar unwaith.

“Dw i’n hapus i gymryd y £20 biliwn, Boris, ond efallai ddim er mwyn ei wario ar dy bont ddiweddaraf.”

Ychwanegodd fod amheuon anferthol ynglŷn â pha mor ymarferol fyddai pont rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Nid dyma fyddai’r bont gyntaf i Boris Johnson ei haddo a methu ei chyflawni,” meddai, wrth gyfeirio at bont y Garden Bridge dros afon Tafwys roedd wedi’i haddo pan oedd yn Faer Llundain, ond na ddaeth dim byd ohoni.