Mae’n bosibl mai cyfrifiad 2021 y flwyddyn nesaf fydd yr un olaf i gael ei gynnal, wrth i’r llywodraeth edrych ar ffyrdd eraill o gasglu’r wybodaeth sydd ynddo.

Gallai ffynonellau eraill gynnwys cofrestriadau meddygon teulu, cofnodion treth cyngor a thrwyddedau gyrru ac arolygon rheolaidd.

Mae’r cyfrifiad wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ym Mhrydain ers bron i ddwy ganrif a defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r wybodaeth fanwl mae’n ei gasglu.

Meddai prif ystadegydd gwladol y Deyrnas Unedig, Syr Ian Diamond mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Guardian heddiw:

“Wnawn ni ddim newid oni bai y gallwn wneud rhywbeth yn well.

“Byddai’n rhaid i unrhyw beth a fyddai’n cymryd lle’r cyfrifiad fod yr un mor gyfoethog o ran gwybodaeth, ond yn gyflymach, rhatach a mwy effeithiol.”

Dywedodd y bydd cost cyfrifiad y flwyddyn nesaf yn agos i £1 biliwn – bron ddwywaith cost cyfrifiad 2011.