Prosiect er lles Lloegr yn unig, a all roi Cymru o dan anfantais sylweddol, yw rheilffordd newydd yr HS2, yn ôl un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru.

Daeth cadarnhad ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 11) y bydd y rheilffordd yn cael ei drydaneiddio rhwng Llundain a Crewe, a rhwng Birmingham a Leeds.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei fod yn “brosiect hynod o wastraffus”.

Mae’n cyhuddo Boris Johnson, prif weinidog Prydain, o “fecso mwy am wneud penderfyniadau am resymau gwleidyddol byr dymor yn hytrach nag am resymau economaidd cadarn”.

Mae’n dweud y bydd Cymru ar ei cholled yn sylweddol os na bydd y prosiect yn cael ei gysylltu â Fformiwla Barnett, y fformiwla sy’n pennu faint o arian mae gwledydd Prydain yn ei gael yn ôl gwariant Llywodraeth Prydain ar wasanaethau cyhoeddus.

‘Ddim yn cyffwrdd Cymru’

“Gan ei fod yn gwasanaethu dinasoedd Manceinion, Leeds a Birmingham, prosiect i Loegr yn unig yw HS2,” meddai Jonathan Edwards wrth golwg360.

“Dyw e ddim yn cyffwrdd Cymru, a’r cwestiwn mawr yw sut mae Fformiwla Barnett yn mynd i weithio o ran y prosiect.

“Dylen ni fod yn cael yr un arian cyfatebol â’r Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’r goblygiadau ariannol yn enfawr i Gymru.

“Mae costau’r prosiect hyn yn anferthol. Mae wedi treblu mewn cost ond maen nhw heb adeiladu eto.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod beth sy’n digwydd, unwaith y’ch chi’n dechrau cloddio, fod y costau’n cynyddu’n sylweddol.”

Mae Jonathan Edwards yn amcangyfrif y byddai’r arian cyfatebol sy’n ddyledus i Gymru yn £5bn.

“Byddai hwnna’n ein galluogi ni i drawsnewid buddsoddiad mewn isadeiledd a thrafnidiaeth Cymru, prosiectau dylen ni fod yn edrych arnyn nhw megis Metro Bae Abertawe, rheilffordd yn uno gogledd a de Cymru,” meddai

“Mae Cymru wedi bod yn cael cam am flynyddoedd enfawr, ac mae’n rhywbeth sy’n effeithio pob unigolyn sy’n byw yn y wlad.”

‘Ergyd i economi Cymru’

Mae’n rhybuddio hefyd y gall Cymru fod ar eu colled wrth fod busnesau yng ngweddill Prydain yn penderfynu sefydlu eu hunain yn ninasoedd mawr Lloegr gan y byddai’n haws teithio yno.

“Ry’n ni’n sôn am gannoedd o biliynau o bunnoedd y flwyddyn yn cael eu colli yn y de.

“Oherwydd beth fydd yn digwydd yw fod y rheilffordd newydd yma’n mynd trwy Loegr yn atyniad enfawr i fusnesau ad-leoli neu i beidio buddsoddi yng Nghymru.

“Felly mae goblygiadau rhyfeddol ac mae’n dangos y cam mae Cymru’n cael dro ar ôl tro o lywodraethau yn San Steffan a Llundain.

“Mae’r goblygiadau ariannol mor sylweddol a bod trethdalwyr yn gorfod talu am y rheilffordd hyn oherwydd y ffordd mae trethi’n cael eu canoli yn Llundain.

“Mae’n ergyd ddwbl i Gymru unwaith eto, gyda llywodraethau San Steffan yn gwneud penderfyniadau cyllido sy’ ddim yn gwneud unrhyw synnwyr cyffredin o ran tegwch ariannol ar hyd y Wladwriaeth Brydeinig, a bydd economi Cymru’n cael yr ergyd unwaith eto.”