Mae Dominic Cummings yn honni y gallai cymeriadau cartŵn berfformio’n well yng Nghabinet Llywodraeth Prydain na’r criw presennol.

“Bydd PJ Masks yn gwneud yn well yn y swydd na phawb gyda’i gilydd,” meddai.

Mae disgwyl i nifer o weinidogion golli eu swyddi wrth i’r Prif Weinidog a’i dîm baratoi i ad-drefnu’r Cabinet.

Mae Downing Street wedi cadarnhau y bydd ad-drefniant yn digwydd ddydd Iau (Chwefror 13), gyda’r Cabinet newydd yn cael ei ddatgelu’r diwrnod canlynol.

Pwy fydd yn mynd a dod?

Mae’n debyg y bydd swyddi’r Canghellor Savid Javid, Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn ddiogel, tra bod Downing Street eisoes wedi cadarnhau y bydd Grant Shapps yn parhau’n Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

Dyw pethau ddim yn edrych cystal i’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace, ac mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Nicky Morgan eisoes wedi dweud ei bod hi’n disgwyl colli ei swydd.

Mae disgwyl i’r prif weinidog ddiswyddo rhai o’r wyth gweinidog benywaidd sydd yn ei Gabinet o 31, gan fygwth balans rhyw’r Cabinet – sydd eisoes yn wael.

Rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Busnes Andrea Leadsom yn erbyn amgylcheddau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion yn ei cholofn i’r Telegraph, gan sbarduno awgrymiadau bod ei swydd hithau yn y fantol.

Bydd Steve Barclay yn gobeithio cael dychwelyd i’r Cabinet ar ôl i’w rôl fel Ysgrifennydd Brexit ddod i ben wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd fis diwethaf.