Mae awgrym Boris Johnson y gallai’r Deyrnas Unedig fabwysiadu perthynas debyg i Awstralia gyda’r Undeb Ewropeaidd “wedi synnu” Brwsel.

Does gan Awstralia ddim cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ar hyd o bryd.

Mae Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, yn dweud bod Awstralia yn awyddus i gael perthynas fasnach well gyda’r bloc na’r un sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Dywed y dylai’r Deyrnas Unedig fod yn “lot fwy uchelgeisiol” a cheisio cael cytundeb masnach llawn.

Mewn araith yn nodi amcanion negodi’r Deyrnas Unedig, dywedodd Boris Johnson ei fod un ai am gael “cytundeb tebyg i un Canada neu berthynas fel sydd gan Awstralia.”

Dim un o’r ddwy system ‘yn ddigonol

Ond wrth siarad yn Senedd Ewrop, dywed Ursula von der Leyen na fyddai’r un o’r ddau fodel yn ddigonol ar gyfer galluogi masnachu heb dollau a chwotâu.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn awyddus i gael “tegwch i bawb” gyda’r ddwy ochr yn sicrhau “cystadleuaeth deg, ac yn amddiffyn safonau cymdeithasol, amgylcheddol ac ar gynnyrch.”

“Roeddwn wedi synnu wrth glywed Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn trafod model Awstralia,” meddai.

“Heb os, mae Awstralia yn bartner cryf sy’n rhannu’r un egwyddorion â ni.

“Ond does gan yr Undeb Ewropeaidd ddim cytundeb masnach gydag Awstralia.”