Mae’r Llys Apêl wedi atal y Swyddfa Gartref rhag anfon rhai pobol ar awyren o wledydd Prydain i Jamaica.

Neithiwr (nos Lun, Chwefror 11), penderfynodd y Fonesig Ustus Simler nad oedd rhai ohonyn nhw wedi cael mynediad i gyngor cyfreithiol digonol ar ôl iddyn nhw golli cyswllt ffôn symudol.

Ddylen nhw ddim cael eu symud oni bai iddyn nhw gael mynediad i gerdyn SIM cyn Chwefror 3, meddai ei dyfarniad.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, maen nhw’n “ceisio gwarchod y cyhoedd rhag troseddwyr tramor difrifol, treisgar a pharhaus”.

Maen nhw’n dweud mai troseddwyr difrifol yn unig sydd ar yr awyren sydd wedi gadael Stansted.