Cafodd dyn ei ladd wedi i goeden gwympo ar ei gar wrth i wyntoedd cryfion Storm Ciara hyrddio drwy wledydd Prydain.

Cyhoeddwyd fod dyn, 58 oed, o Micheldever yn swydd Hampshire, wedi marw yn y fan a’r lle ar yr A33 ar ôl i goeden gwympo wrth iddo yrru Mercedes o Winchester i Micheldever toc cyn 4 o’r gloch ddydd Sul, 9 Chwefror.

Dywedodd Heddlu Swydd Hampshire mewn datganiad fod ei “deulu agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol”.