Mae dwy o’r ymgeiswyr yn y ras i arwain y Blaid Lafur wedi lladd ar ei gilydd yn ystod hystingau yn Nottingham.

Fe wnaeth Emily Thornberry godi amheuon am honiadau gan Rebecca Long-Bailey y bu’n rhaid iddi weithio drwy’r nos ar fyr rybudd rywdro yn y gorffennol a bod ei staff wedi dod â pizza iddi.

Ymatebodd Rebecca Long-Bailey gyda’r gair “miaow” ar ôl i’w gwrthwynebydd ddweud ei bod hi wedi bod yn gwneud dwy swydd ar adegau.

“Ry’n ni’n caru’n gilydd go iawn,” meddai Rebecca Long-Bailey wedyn.

“Dylai pawb wybod fy mod i’n gweithio’n galed dros ben. Roedd rhaid i ni fwyta pizza.”

Ond dywedodd hi wedyn, yng nghyd-destun ffrae rhwng cynghorwyr, na ddylai cynrychiolwyr y Blaid Lafur ladd ar ei gilydd.

Roedd disgwyl i Keir Starmer gymryd rhan yn y digwydd, ond fe dynnodd yn ôl am resymau personol.

Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Ebrill 4.