Mae un o’r ymgeiswyr yn y ras i gael arwain y Blaid Lafur wedi cwyno am faint o sarhad mae Aelodau Seneddol benywaidd yn ei gael oherwydd y ffordd maen nhw yn edrych.

Dywedodd Rebecca Long-Bailey, bod beirniadu Aelodau Seneddol benywaidd am eu hedrychiad “ddim yn dderbyniol”.

Roedd Rebecca Long-Bailey yn amddiffyn ei chydweithiwr Tracy Brabin, Aelod Seneddol Batley a Spen, ar ôl iddi gael ei beirniadu yn hallt am wisgo ffrog oedd yn dangos un o’i hysgwyddau yn Senedd San Steffan.

Mewn cyfweliad ar BBC Breakfast, dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Cysgodol ei bod wedi wynebu sylwadau cas am ei haeliau wedi iddi ymddangos ar deledu.

“Ni ddylai beth mae pobl yn gwisgo i’r gwaith fod yn bwysig,” meddai Rebecca Long-Bailey.

Ond er bod Rebecca Long-Bailey yn dweud nad yw sylwadau sarhaus yn cael effaith arni, dywed na ddylai merched sydd yn llygaid y cyhoedd gael eu cam-drin.

“Dw i ddim yn darllen amdano, a dw i ddim yn poeni amdano a dweud y gwir. Ond tydi o ddim yn dderbyniol.”