Mae Keir Starmer, yr aelod seneddol Llafur, yn galw ar bennaeth y gwasanaeth sifil i ymchwilio i driniaeth Boris Johnson o’r wasg.

Yn ei lythyr at Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Syr Keir Starmer, sydd hefyd yn y ras i olynu Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur, fod “gwahardd y cyfryngau rhag mynychu sesiynau briffio am faterion pwysig y Llywodraeth yn niweidiol i ddemocratiaeth”.

“Mae hefyd yn tanseilio gallu’r gwasanaeth sifil i gydymffurfio â’i werthoedd craidd sef uniondeb, gwrthrychedd a didueddrwydd,” meddai.

Mae hefyd wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio i’r mater ar frys “er mwyn cael sicrwydd na fydd digwyddiad o’r fath yn digwydd eto”.

Gwahoddodd David Frost, prif ymgynghorydd prif weinidog Prydain, y wasg i Downing Street ddydd Llun, ond gwrthodwyd mynediad i rai newyddiadurwyr.

Cerddodd yr holl newyddiadurwyr a oedd yn bresennol allan yn hytrach na derbyn y briff.

“Tactegau tebyg i Donald Trump”

“Mae’n destun pryder, ac yn ymddangos bod Boris Johnson yn defnyddio tactegau tebyg i Donald Trump er mwyn cuddio rhag craffu,” meddai Tracy Brabin, llefarydd diwylliant Llafur yn San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 mai “nonsensens” oedd awgrymu bod newyddiadurwyr wedi eu heithrio oherwydd eu gwleidyddiaeth, gan fod oddeutu wyth neu naw sefydliad “ar draws y sbectrwm gwleidyddol” wedi eu gwahodd i’r sesiwn.

“Rydym yn cadw’r hawl i friffio newyddiadurwyr yr ydym yn eu dewis, pryd bynnag y dymunwn,” meddai.