Mae cyfreithwyr ar ran Adran Wladol yr Unol Daleithiau’n gwrthod cyfarfod â rhieni Harry Dunn, gan ddweud bod “penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud” am y mater.

Roedd Charlotte Charles a Tim Dunn yn gobeithio trafod achos eu mab, a gafodd ei daro a’i ladd ger safle’r awyrlu yn Swydd Northampton ar Awst 27 y llynedd.

Hawliodd Anne Sacoolas, gwraig diplomydd Americanaidd, imiwnedd gwleidyddol yn dilyn y digwyddiad, gan ddychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Mae ei rieni’n honni bod Mike Pompeo, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, “wedi gwneud penderfyniad gwleidyddol” i wrthod cais i’w hestraddodi cyn bod ymchwiliad yn dod i ben.

Mae cyfreithwyr ar ran Charlotte Charles a Tim Dunn yn cyhuddo llywodraeth yr Unol Daleithiau o wneud y penderfyniad “heb roi sylw teilwng i’r gyfraith na’r broses gywir”.