Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd yn cyhoeddi cynlluniau pellach heddiw [dydd Llun, Chwefror 3] am “newidiadau hanfodol” wrth ddelio gydag unigolion sydd wedi eu cael yn euog o frawychiaeth.

Wedi  ymosodiadau London Bridge, mynnodd y Prif Weinidog fod angen newid y system gan ddweud: “Os ydych chi’n eich cael yn euog o drosedd ddifrifol, dylai bod dedfryd o 14 mlynedd o leiaf – a rhai byth i’w rhyddhau.”

Ychwanegodd y “dylai’r drwgweithredwyr yma gael eu carcharu am bob dydd o’u dedfryd, a dim eithriadau.”

Yn fuan wedi’r ymosodiadau ym mis Rhagfyr, dangosodd ffigurau’r Swyddfa Gartref a ddadansoddwyd gan Asiantaeth Newyddiaduraeth PA, fod mwy ‘na 350 o frawychwyr a gafwyd yn euog ac a oedd yn cael eu hamau, wedi cael eu rhyddhau dros y saith mlynedd flaenorol.

Ar ôl yr ymosodiadau gan y brawychwr Usman Khan ym mis Tachwedd, dywedodd Boris Johnson fod Brexit wedi tynnu sylw’r Llywodraeth oddi ar y pwnc, ac nad oedden nhw wedi llwyddo i wneud y newidiadau hanfodol oedd eu hangen er mwyn cadw troseddwyr treisgar a brawychwyr yn y carchar am gyfnodau hirach.