Mae dyn wedi cael ei saethu’n farw gan Heddlu Llundain yn ystod yr hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “digwyddiad brawychol”.

Mae lle i gredu bod tri o bobol wedi cael eu hanafu yn ystod ymosodiad â chyllell, a bod bywyd un ohonyn nhw mewn perygl.

Fe ddigwyddodd yn Streatham yn ne Llundain brynhawn heddiw (dydd Sul, Chwefror 2).

Yn ôl tystion, roedd gan y dyn gyllell machete a thuniau arian ar ei frest, ac roedd e’n cael ei gwrso cyn i’r heddlu saethu dair gwaith.

Mae lle i gredu bod pobol yn cysgodi mewn siopau yn dilyn y digwyddiad, a bod yr heddlu’n eu cynghori i aros yno tan iddyn nhw ymdrin â’r sefyllfa.