Mae’r heddlu wedi cael gwybod am boster mewn bloc o fflatiau yn Norwich sy’n dweud wrth bobol mai “Saesneg sy’n cael ei siarad yma”.

Mae’r poster, sy’n dymuno ‘Diwrnod Brexit hapus’ hefyd yn dweud nad yw ieithoedd eraill yn cael eu “goddef”.

“Mae gyda ni ein gwlad wych yn ei hôl,” meddai’r poster hefyd, cyn ychwanegu mai “Saesneg y Frenhines yw’r dafodiaith yma”.

Cafwyd hyd i’r poster ar ddrws yr adeilad fore Gwener (Ionawr 31), y diwrnod pan adawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd yn swyddogol.

Roedd yn awgrymu y dylai unrhyw un sy’n siarad unrhyw iaith arall heblaw Saesneg adael y wlad.

Ymateb Cyngor Dinas Norwich

“Mae gan Norwich hanes balch o fod yn ddinas groesawgar, a wnawn ni ddim godde’r ymddygiad yma,” meddai Cyngor Dinas Norwich mewn datganiad.

“Cyn gynted ag y cawsom wybod am y digwyddiad hwn, fe wnaethon ni adrodd amdano wrth Heddlu Norfolk ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad.

“Rydym yn cymryd hyn o ddifrif ac yn annog trigolion i gysylltu â ni neu’r heddlu os oes ganddyn nhw bryderon.”

Yn ôl adroddiadau, cafodd y posteri eu gadael ar ddrysau tân ar bob llawr yn yr adeilad, ond fe gawson nhw eu tynnu oddi yno gan ofalwr.