Mae dynes yn ei 40au wedi cael ei chyhuddo o lofruddio tri o blant yn Nulyn.

Cafwyd hyd i’r plant – Conor McGinley (9), Darragh (7) a Carla (3) mewn eiddo ym mhentref Newcastle ddydd Gwener (Ionawr 24).

Cafodd ei harestio ddydd Mawrth (Ionawr 28) ar ôl iddi gael ei chanfod yn y fan a’r lle.

Mae hi’n mynd gerbron y llys heddiw.