Mae cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd yr SNP yn annog yr Alban i aros y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd pe bai’n mynd yn wlad annibynnol.

Ond yn ôl Alex Neil, dylai’r Alban annibynnol ymuno â Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn hytrach nag ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn ei chyfanrwydd, a hynny er mwyn osgoi ffin galed rhwng yr Alban a Lloegr.

Daw ei sylwadau mewn erthygl yn yr Herald, lle mae’n dweud y byddai ffin galed o’r fath yn niweidio’r ymgyrch tros annibyniaeth.

Mae’n dweud hefyd na fyddai’n bosib i Alban annibynnol ddatrys ei pherthynas â’r Undeb Ewropeaidd hyd nes y bydd gweddill Prydain wedi gwneud hynny ar ôl Brexit.

“Pe bai Alban annibynnol yn ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, gallai hynny arwain at ffin galed rhwng yr Alban a Lloegr, rhywbeth a fyddai’n atal unrhyw bosibilrwydd go iawn o ennill ail refferendwm annibyniaeth,” meddai.

“Tan bod y cytundeb masnach rydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, neu ddiffyg cytundeb, yn hysbys yna mae’n amhosib cau pen y mwdwl ar bolisi.

“Ond mae cynllunio wrth gefn yn synhwyrol, ac mae un posibilrwydd yn sefyll allan – fod yr Alban yn ymuno â Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop.”

Byddai ei gynnig yn sefydlu trefniadau tebyg i EFTA – Gwlad yr Iâ, Lichtenstein, Norwy a’r Swistir – sydd y tu fewn i’r farchnad sengl ond heb fod yn rhan o’r undeb tollau.

‘Creu arf allan o’r mater ffiniau’

Mae Alex Neil yn dweud bod y drefn bresennol yn galluogi “creu arf allan o’r mater ffiniau” fel yn achos mater creu arian arbennig fel rhan o’r refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014.

“Byddai’r gobeithion o ennill y refferendwm yn gwanhau yn ddi-angen ac yn sylweddol.

“Dydy’r materion hyn ddim yn codi os yw’r Alban annibynnol yn rhan o gytundeb masnach rydd ond nid yn yr undeb dollau.

“Mae’n bryd ystyried ein hopsiynau y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd.”