Mae un o droellwyr disgiau enwoca’ gwledydd Prydain wedi cyfadde i hunanladdiad ei chariad ei gadael yn teimlo’n ddiymadferth ac mewn sioc am dros ddwy flynedd.

Fe chwalwyd bywyd Ze Ball yn 2017 pan gymerodd Billy Yates ei fywyd ei hun yn dilyn brwydr hir yn erbyn iselder.

Heddiw, mae Zoe Ball yn dweud iddi fod mewn cyflwr o “sioc” am ddwy flynedd yn dilyn y farwolaeth, a’i bod wedi esgor ar broblemau eraill iddi oddi ar hynny

Mae wedi cymryd amser iddi allu “maddau iddi’i hunan, meddai’r ddarlledwraig 49 oed, wedi iddi droi at alcohol er mwyn ceisio adennill ei hunan hyder a wynebu’r menopos.