Mae cyfreithiwr yn yr Unol Daleithiau wedi annog y Tywysog Andrew i “wneud yr hyn sy’n iawn” a chydweithio gydag ymchwiliad yr FBI am y diweddar bedoffeil, Jeffrey Epstein..

Dau fis ers i fab y Frrenhines addo y byddai’n “cynorthwyo unrhyw asiantaeth gyfreithiol gyda’u hymchwiliadau”, mae twrnai taleithiol Efrog Newydd, Geoffrey Berman, yn dweud nad oes gair wedi dod gan y tywysog.

Fe laddodd y biliwnydd, Jeffrey Eptein, ei hun yn ei gell yng ngharchar y llynedd.

“Does dim cydweithrediad o gwbwl wedi dod o du’r Tywysog Andrew” meddai Geoffrey Berman. “Mae wedi anwybyddu cais i siarad â’r awdurdodau yn America.”