Mae Boris Johnson yn dweud y bydd y broses o gael gafael ar fisa ar ôl Brexit yn cael ei chyflymu i wyddonwyr a mathemategwyr.
Mae Prydain yn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd ymhen pedwar diwrnod, ac mae’r prif weinidog yn dweud y bydd Prydain “ar agor i’r meddyliau mwyaf talentog yn y byd”.
Mae disgwyl i gynllun newydd ddod i rym ar Chwefror 20, ac mae’n dweud na fydd terfyn ar nifer y gwyddonwyr a mathemategwyr fydd yn gallu cael mynediad at fisa.
Bydd y cynllun yn cael ei reoli gan sefydliad Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig, a fydd yn rhoi sêl bendith i geisiadau am fisa fel bod modd i brosiectau ymchwil uchel eu clod ddenu’r doniau amlycaf o bob cwr o’r byd.
Fydd dim angen fod gan ymgeiswyr swydd cyn dod i wledydd Prydain.
Ymchwil wyddonol
Mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad o £300m er mwyn ariannu ymchwil wyddonol a mathemategol yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Fe fydd yn ariannu doethuriaethau a nifer o gynlluniau ymchwil mathemateg.
Yn ôl Andrea Leadsom yr Ysgrifennydd Busnes, bydd Brexit yn cynnig cyfle i “gryfhau ymchwil ac adeiladu seiliau ar gyfer diwydiannau newydd yfory”.
Mae’r camau newydd wedi cael eu croesawu gan fudiadau yn y ddau faes, ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o “gimic marchnata”.
“Mae Boris Johnson yn dangos nad yw e’n deall yn sylfaenol yr hyn sy’n gwneud ein sector wyddonol mor llwyddiannus,” meddai Christine Jardine.
“Dydy newid enw fisa a dileu cap sydd erioed wedi dod i rym ddim yn gynllun difrifol.”