Mae Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol Uno’r Undeb, yn dweud ei bod hi’n annheg honni bod Rebecca Long-Bailey yn “Jeremy Corbyn arall”.

Mae hi’n un o’r ymgeiswyr yn y ras i olynu arweinydd y Blaid Lafur.

Yn ôl Len McCluskey, mae hi’n “unigolyn, yn gryf, yn ddewr, yn sicr yn alluog ac yn gallu symud ei gweledigaeth yn ei blaen”.

Mae’r undeb yn ei chefnogi hi yn y ras, ac mae Len McCluskey yn dadlau mai Brexit oedd yn gyfrifol am y Blaid Lafur yn colli’r etholiad cyffredinol fis diwethaf.

“Ddwy flynedd, roedd Jeremy Corbyn yn cael ei garu,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Beth sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf? Brexit ac anallu Llafur i aros yn effeithlon o fewn eu safbwynt maniffesto o 2017 o barchu refferendwm 2016 a dadlau dros dynnu Llafur a’r wlad allan o Ewrop ar gytundeb sy’n gwarchod swyddi a buddsoddiad.

“Aeth hynny ar goll yn ystod y ddwy flynedd ac fe wnaeth hynny effeithio sut roedd pobol yn gweld Jeremy fel arweinydd ac fe wnaethon ni dalu’r pris am hynny.”