Mae llyfr teyrngedau wedi cael ei agor yn Belffast yn dilyn marwolaeth Seamus Mallon, cyn-ddirprwy arweinydd yr SDLP, yn 83 oed.

Fe fydd ail lyfr yn gael ei agor yn Derry yfory (dydd Sul, Ionawr 26).

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llyfr yn Belffast mae’r actores Sharon Stone a Betty Williams, enillydd Gwobr Heddwch Nobel.

Dywed Sharon Stone ei fod e’n “rhyfelwr heddwch”, gyda Betty Williams yn ychwanegu ei bod hi’n ei “barchu a’i edmygu”.

Roedd e’n allweddol wrth sefydlu heddwch yng Ngogledd Iwerddon a chreu cytundeb heddwch Gwener y Groglith.

Roedd e’n ddirprwy i’r Arglwydd Trimble rhwng 1998 a 2001.

Dywed George Mitchell, cyn-Seneddwr yn yr Unol Daleithiau oedd hefyd yn rhan o’r trafodaethau heddwch, fod ei golled “mor fawr i fi ag ydyw i bobol Gogledd Iwerddon”.

Mae Bill Clinton, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi talu teyrnged i’w “allu a’i onestrwydd, ei ddiffuantrwydd a’i argyhoeddiadau”.

Yn gyn-athro, mae’n gadael ei ferch Orla.