Mae dyn 27 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn nwyrain Llundain neithiwr (nos Wener, Ionawr 24).

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Clapton toc cyn 11.30yh lle cafwyd hyd i ddyn oedd wedi cael ei drywanu.

Bu farw’n fuan ar ôl i barafeddygon roi triniaeth iddo.

Cafodd y dyn ei arestio yn y fan a’r lle, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd, ond maen nhw’n apelio am wybodaeth.