Mae’r Swyddfa Gartref wedi beirniadu penderfyniad Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau i wrthod cais i estraddodi gwraig diplomydd sydd wedi cael ei chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Harry Dunn.

Dywedodd y Swyddfa Gartref bod penderfyniad Mike Pompeo yn “siomedig” ac yn “atal cyfiawnder” a’u bod yn “ystyried ein hopsiynau ar frys”.

Daeth y cyhoeddiad mewn galwad ffôn i’r Aelod Seneddol Andrea Leadsom, sydd yn cynrychioli etholaeth teulu Harry Dunn, ddydd Iau (Ionawr 23).

“Brwydr”

Cafodd Harry Dunn, 19 oed, ei ladd ar ôl i’w feic modur fod mewn gwrthdrawiad a char y tu allan i safle milwrol yr Unol Daleithiau yn Swydd Northampton ar Awst 27 y llynedd.

Cafodd Anne Sacoolas, 42, ei chyhuddo gan Wasanaeth Erlyn y Goron o achosi marwolaeth Harry Dunn drwy yrru’n beryglus ym mis Rhagfyr.

Ond oherwydd breintryddid diplomyddol roedd wedi cael dychwelyd i’r Unol Daleithiau wedi’r gwrthdrawiad gan arwain at feirniadaeth ryngwladol.

Mae teulu Harry Dunn  wedi dweud nad ydyn nhw wedi eu synnu gan y penderfyniad ond wedi mynnu “mae hon yn frwydr na fydd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ei hennill.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Unol Daleithiau y byddai’n gosod cynsail peryglus petai nhw’n caniatáu’r cais i estraddodi Anne Sacoolas.