Mae Tywysog Cymru wedi cyfarfod yr ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg, ar ôl dweud wrth arweinwyr y byd na “allwn wastraffu dim mwy o amser” yn y frwydr i achub y blaned.

Mewn araith wrth y World Economic Forum yn Davos, Y Swistir, annogodd Charles lywodraethau a arweinwyr busnes i arwain “y byd oddi wrth y drychineb sy’n ein wynebu.”

Mae’r tywysog wedi bod yn ymgyrchu dros yr amgylchedd ers blynyddoedd, a chafodd ei weld yn cyfarfod Greta Thunberg ar ôl ei araith.

“Boneddigion a boneddigesau, mae gennych oll sedd wrth y bwrdd oherwydd mae’n rhaid i hon fod y flwyddyn rydym yn rhoi ein hunain ar y trywydd iawn,” meddai.

“Allwn ni ddim gwastraffu dim mwy o amser. Yr unig beth sy’n ein rhwystro yw ein parodrwydd i weithredu. Nawr i’r amser i weithredu.”