Mae Ian Blackford yn dweud bod y Deyrnas Unedig yn wynebu “argyfwng cyfansoddiadol” ar ôl i lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bleidleisio yn erbyn deddfwriaeth Brexit.

Fe fu arweinydd yr SNP yn ymateb ar ôl pleidlais yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 21) i wrthod y Bil Ymadael, fel y mae Holyrood a Stormont eisoes wedi’i wneud.

Mae Ian Blackford yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio cipio grym oddi ar y gwledydd datganoledig, a Boris Johnson a’i gefnogwyr o “amharch sylweddol”.

Yn dilyn y bleidlais yng Nghaerdydd, dywedodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fod hynny’n “ddi-gynsail ac yn fawreddog”, ac y byddai anwybyddu’r gwrthwynebiad “yn dangos faint mae system San Steffan wedi torri”.

Yn ôl Mark Drakeford, mae’r Bil “yn wan” ac nid yw’n “gwarchod lles y rhai rydyn ni’n eu gwasanaethu”.

Dywed Ian Blackford y byddai’r Alban yn colli 28 o bwerau datganoledig yn sgil y ddeddfwriaeth, gan gynnwys ffermio, pysgota a’r amgylchedd.

Ac mae’n rhybuddio mai dyma’r ymosodiad cyntaf gan y llywodraeth yn San Steffan ar y gwledydd datganoledig.

Pryderon

“Os gallwch chi ddadlau, fel mae’n ymddangos mae’r llywodraeth wedi’i wneud yn yr achos hwn, nad yw’r sefyllfa’n normal, yna fe allech chi ddadlau bob tro nad yw’r sefyllfa’n normal.

“Beth sy’n eich atal chi rhag troi rownd a mynd â phwerau’n ôl oddi wrth Senedd yr Alban rywbryd eto?

“Mae yna 28 o bwerau datganoledig y byddwn ni’n eu colli o ganlyniad i hyn.

“Ond mae’n fater o barch, mewn gwirionedd.

“Yr hyn sydd gyda ni yn fan hyn yw llywodraeth yn gweithredu â ffon fawr ac yn dweud, nid yn unig wrth Holyrood ond Caerdydd a Belffast hefyd, mai ‘dyma sy’n mynd i ddigwydd a does gyda chi ddim llais yn hyn’

“Rydyn ni i fod yn deulu o genhedloedd ac mae lle’r Alban yn y Deyrnas Unedig i fod i gael ei barchu. Dydy hynny ddim yn digwydd, a  dyna pam fod gyda ni bryderon go iawn, mewn gwirionedd.

“Bydd y Frenhines yn cael cais i roi Caniatâd Brenhinol i’r Ddeddf hon ac mae’n Ddeddf sydd heb gefnogaeth tair allan o bedair senedd yn y Deyrnas Unedig.

“Mae hynny’n ddi-gynsail a dw i’n awgrymu ei fod, mewn gwirionedd, yn gyfystyr ag argyfwng cyfansoddiadol.

“Mae’n rhaid i’r prif weinidog newid ei safbwynt, ac mae’n rhaid iddo fe barchu’r prif weinidogion yn yr holl weinyddiaethau datganoledig.”