Mae Brexit wedi rhoi rhwydd hynt i bobol fod yn hiliol, yn ôl y Farwnes Warsi.

Daw sylwadau cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol, sy’n eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, mewn darlith yng Ngholeg King’s yn Llundain wythnos a hanner cyn ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud bod yr ymgyrch “wenwynig” i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi annog hiliaeth a’i bod hi wedi cael ei sarhau’n hiliol.

Mae’n ferch i Fwslimiaid a ddaeth i Loegr o Bacistan a siaradodd hi am ei magwraeth yn ystod y ddarlith neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 21) wrth i arddangosfa newydd am fewnfudwyr gael ei hagor.

Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan Shami Chakrabarti o’r Blaid Lafur.

‘Ennill pleidleisiau’

Mae’r Farwnes Warsi yn dweud iddi gael bygythiadau i’w lladd ar sail hil a’i bod hi wedi wynebu sarhad hiliol ar wefan gymdeithasol Twitter.

Mae’n dweud mai cymedroli ar y lefel uchaf yw’r allwedd i ddatrys y sefyllfa, gan gyfeirio at y prif weinidog Boris Johnson.

“Yr hyn ddaeth yn gynyddol amlwg yn ystod y ddadl Brexit oedd fod pobol yn dweud beth bynnag roedd yn ei gymryd i ennill pleidleisiau,” meddai’r Farwnes Warsi yn ei darlith.

“Roedden ni (ymgyrchwyr dros adael) yn cyflwyno naratif lle’r oedden ni’n bwydo bwystfil rhagfarn.

“Allwch chi ddim rhedeg ymgyrch wenwynig a disgwyl heddwch wedyn.

“Rydyn ni wedi rhyddhau anghenfil.

“Yn y gorffennol, roedd y rhan fwyaf o bobol hiliol yn ofni bod yn hiliol. Dydyn nhw ddim bellach.

“Dw i’n teimlo fel bod pobol wedi cael rhwydd hynt i fod yn hiliol.”