Mae nifer y carcharorion sy’n datblygu problem gyffuriau wedi dyblu yn y pum mlynedd ddiwethaf, yn ôl ymchwil newydd gan y felin drafod Reform.

Dywed oddeutu 15% o garcharorion eu bod wedi troi at gyffuriau ar ôl mynd i’r carchar.

Edrychodd yr ymchwil ar ganlyniadau arolygon gyda charcharorion a gafodd eu cynnal rhwng 2013/14 a 2018/19.

Awgryma’r canlyniadau bod y ganran o garcharorion sydd wedi cael problemau gyda chyffuriau wedi codi o 6.4% i 14.8%.

Dywed awdur yr adroddiad, Aidan Shilson-Thomas bod canlyniadau’r adroddiad yn awgrymu bod problemau cyffuriau mewn carchardai wedi dod yn “fwy difrifol” yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Aeth ymlaen i ddweud bod angen i garchardai fod yn “gyfle i garcharorion newid y ffordd maen nhw’n ymddwyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae sylweddau anghyfreithiol yn peri sialensiau enfawr yn ein carchardai, a dyna pam yr ydym yn buddsoddi £100m mewn system ddiogelwch fel sydd i’w gweld mewn meysydd awyr –  gan gynnwys peiriannau pelydr-x – i atal cyffuriau rhag dod i mewn.”