Mae’r heddlu’n treulio ail ddiwrnod yn chwilio am ddyn sydd ar goll yn afon Tafwys.

Cafodd Heddlu Surrey eu galw i ardal Shepperton neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 18) yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi mynd i mewn i’r afon oddi ar gwch.

Daeth y chwilio i ben am y dydd neithiwr, gan ail-ddechrau eto heddiw.

Dydy’r dyn ddim wedi cael ei enwi, ond mae ei deulu wedi cael gwybod am y digwyddiad.