Mae Jeremy Corbyn dan y lach am fod rhestr o’r bobol mae’n dymuno iddyn nhw dderbyn anrhydeddau’n cynnwys pennaeth ei staff a John Bercow, cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae disgwyl i enw Karie Murphy ymddangos ar y rhestr hefyd.

Mae’n cael y cyfle i enwebu pobol am anrhydeddau wrth iddo baratoi i roi’r gorau i arwain y Blaid Lafur.

Mae Rosena Allin-Khan, un sydd yn y ras am ddirprwy arweinyddiaeth y blaid, wedi mynegi pryder am y penderfyniad i enwebu Karie Murphy yn sgil ei rhan yn yr ymchwiliad i wrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur.

Mae Mudiad Iddewig Llafur yn dweud bod yr enwebiad yn “gwbl amhriodol” ac mae Jeremy Corbyn yn cael ei gyhuddo o “wobrwyo methiant”.

Mae’r Blaid Lafur yn gwrthod gwneud sylw.