Mae Harry a Meghan, Dug a Duges Sussex, wedi ildio’u teitlau brenhinol wrth iddyn nhw baratoi am fywyd newydd yng Nghanada.

Roedden nhw eisiau aros yn rhan o’r teulu ond gyda llai o gyfrifoldebau ac yn ariannol annibynnol.

Ond daeth cadarnhad mewn datganiad gan y teulu brenhinol y byddai eu rôl swyddogol yn dod i ben, ac na fydden nhw bellach yn cael eu galw’n “Fawrhydi”.

Byddan nhw hefyd yn ad-dalu arian trethdalwyr a gafodd ei ddefnyddio i adnewyddu eu cartref yn Swydd Berkshire.

Maen nhw’n cydnabod fod rhaid iddyn nhw “gamu’n ôl” o’u dyletswyddau fel rhan o fargen gyda’r teulu.

Mae Brenhines Loegr yn dweud ei bod hi’n “deall” eu sefyllfa anodd, ac wedi diolch iddyn nhw am eu gwaith gan ddymuno’n dda iddyn nhw.

Mae disgwyl iddyn nhw barhau i gefnogi elusennau.

Bydd y trefniadau newydd yn dod i rym yn yr haf.