Mae’r Ceidwadwyr yn gwrthod cadarnhau bod Boris Johnson ar fin ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Prydain ar drothwy Brexit.

Mae disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31.

Mae James Cleverly, cadeirydd y blaid, yn gwrthod cadarnhau’r adroddiadau ond mae’n dweud y bydd Adran Brexit yn dod i ben.

Mae Alok Sharma, yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, yn gwrthod cadarnhau adroddiadau bod yr adran honno am uno â’r Swyddfa Dramor.

“Mater i’r prif weinidog yw hynny yn y pen draw,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.