“Stopiwch orymdeithio, dechreuwch feddwl” yw neges Jim Sillars, cyn-ddirprwy arweinydd yr SNP i’r rhai sydd wedi bod yn gorymdeithio dros annibyniaeth i’r Alban.

Daw ei neges wythnos ar ôl i ddegau o filoedd o bobol orymdeithio ar strydoedd Glasgow dros ail refferendwm annibyniaeth.

Mae’n dweud mai “gwallgofrwydd llwyr” yw parhau i fynnu refferendwm arall eleni.

Mae Nicola Sturgeon yn gwthio am gynnal refferendwm arall cyn diwedd y flwyddyn, ond mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn dal ei dir wrth barhau i wrthod rhoi rhagor o hawliau i Holyrood.

Mae Jim Sillars yn dweud y dylai’r blaid ganolbwyntio ar fargen Brexit cyn mynd am annibyniaeth.

“Dydyn ni braidd wedi symud y niferoedd o blaid annibyniaeth,” meddai wrth y BBC yn yr Alban.

“A hyd nes y bydd Brexit wedi cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn a’n bod ni’n gwybod manylion unrhyw gytundeb masnach, mae’n amhosib i’r mudiad annibyniaeth adeiladu polisi mewn perthynas â Lloegr, ein marchnad fwyaf o bell ffordd.

“Hyd nes bod Brexit i’w weld ar ben ac y gallwn ni ei archwilio’n fanwl i weld ei fod e’n gweithio’n ymarferol, allwn ni ddim creu polisi a fydd yn darbwyllo mwyafrif sylweddol o bobol i bleidleisio dros annibyniaeth.”