Mae dyn wedi cael ei garcharu am weddill ei oes am drywanu ei fam a’i chwaer i farwolaeth.

Cawson nhw eu lladd yn 2017, ond bu oedi yn y dyfarniad oherwydd mi dreuliodd Joshua Cohen, 29, amser yn ysbyty meddwl Broadmoor.

Mae ganddo sgitsoffrenia paranoid, a dyfarnwyd nad oedd yn ddigon iach i gynnig ple. Wedi i’w iechyd meddyliol wella mi ymddangosodd gerbron llys yr Old Bailey.

Plediodd yn euog o gyflawni dynladdiad â chyfrifoldeb lleihaëdig, a chafodd hynny ei dderbyn gan erlynwyr ar sail adroddiadau seiciatrig.

Teulu Joshua Cohen sydd yn berchen ar bopty enwog Beigel Bakery yn Brick Lane, Llundain.