Mae Canghellor y Trysorlys, Sajid Javid, wedi cyfaddef na fydd pob busnes ym Mhrydain yn elwa yn sgil Brexit.

Mae’n rhybuddio cwmnïau cynhyrchu sy’n ffafrio cadw at reoliadau’r Undeb Ewropeaidd na fydd hyn yn digwydd unwaith y bydd Prydain wedi gadael.

“Fyddwn ni ddim yn derbyn rheolau, fyddwn ni ddim yn y farchnad sengl a fyddwn ni ddim yn yr undeb tollau – ac fe fydd hyn wedi digwydd erbyn diwedd y flwyddyn,” meddai.

“Fyddwn ni ddim yn helpu cynhyrchwyr sydd o blaid rheolau’r Undeb Ewropeaidd, gan eu bod nhw wedi cael tair blynedd i baratoi ar gyfer trawsnewid.

“Er na fydd pob busnes yn elwa, bydd economi Prydain yn parhau i fod yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus ar y ddaear.”