Mae rhieni Harry Dunn wedi dweud nad oes gan y Prif Weinidog “unrhyw fwriad na dymuniad” i’w cyfarfod nhw i drafod marwolaeth eu mab.
Roedd y rhieni wedi cael “addewidion lu” gan aelodau o’r Cabinet, medden nhw, y byddai Boris Johnson yn eu cyfarfod i drafod eu sefyllfa.
Yn dilyn marwolaeth eu mab mae Charlotte Charles a Tim Dunn wedi cyfarfod yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab ac wedi trafod y sefyllfa droeon gyda’u Haelod Seneddol lleol, Andrea Leadsom.
Fe sgrifennodd Andrea Leadsom at y Prif Weinidog yn gofyn iddo gyfarfod rhieni Harry Dunn.
Cefndir
Fe gafodd Harry Dunn ei ladd tra yn gyrru motor-beic, pan wnaeth car ei daro tu allan i faes RAF Croughton yn Northamptonshire.
Americanes o’r enw Anne Sacoolas oedd yn gyrru’r car wnaeth daro Harry Dunn, ac yn dilyn y ddamwain wnaeth hi ffoi yn ôl i America.
Yr honiad yw bod yr Americanes wedi bod yn gyrru ar ochr anghywir y ffordd ar adeg y ddamwain.
Nid yw Llywodraeth America yn fodlon anfon Anne Sacoolas yn ôl i Brydain.