Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gael eu gorfodi i drosglwyddo data a thalu am ymchwil perthnasol i’r niwed posib allai gael ei achosi.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad am y pryderon mae effaith y cyfryngau cymdeithasol yn eu cael ar bobl fregus. Mae’r adroddiad wedi cael cefnogaeth Ian Russell, tad Molly Russell, y ferch 14 oed oedd wedi lladd ei hun yn 2017 ar ôl iddo wylio cynnwys niweidiol ar-lein.

Dywedodd Dr Bernadka Dubicka, cadeirydd y gyfadran plant a phobl ifanc yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion: “Rwy’n gweld mwy a mwy o blant yn hunan-niweidio ac yn ceisio lladd eu hunain a hynny o ganlyniad i’w defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.”

“Mae’n amhosib i ni ddeall y peryglon o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol oni bai bod pobl fel Twitter, Facebook ac Instagram yn rhannu eu data”.

Facebook yn darparu cefnogaeth

Dywedodd Facebook ei bod nhw’n gweithio’n agos gyda’r Samariaid a’r llywodraeth, a’i bod nhw “eisoes yn cymryd nifer o’r camau a argymhellir” yn yr adroddiad.

“Rydyn ni’n tynnu cynnwys niweidiol o’n platfformau ac yn darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n chwilio amdano,” meddai llefarydd.

Mewn datganiad dywedodd y Llywodraeth fod yr adroddiad diweddaraf yn sicrhau fod y “Deyrnas Unedig yn lle mwy diogel i fod ar-lein” ac yn annog “rhieni a phlant i wneud penderfyniadau gwybodus am eu defnydd o’r rhyngrwyd.”

Ond, yn ôl y Coleg Brenhinol nid yw argymhelliad diweddar y llywodraeth y dylai 2% o elw cwmnïau technoleg fynd tuag at gefnogi’r ymchwil yn ddigon da.

Maen nhw’n awgrymu y dylai treth ar elw gael ei orfodi ar gwmnïau rhyngwladol er mwyn ariannu ymchwil yn ymwneud ag iechyd meddwl.